This pdf document compiles twenty-seven positive responses to a questionnaire during a talk on historic mills of the Llyn given by Glyn Roberts at Sarn Mellteyrn on 23 August 2029
Mae'r ddogfen pdf hon yn llunio saith ar hugain o ymatebion cadarnhaol i holiadur yn ystod sgwrs ar felinau hanesyddol y Llyn a roddwyd gan Glyn Roberts yn Sarn Mellteyrn ar 23 Awst 2029
Hi Elin
Parthed cais grant Geraint a Gillian Jones tuag at adnewyddu Hen Felin Aberdaron.
Hoffwn gynnig gair o gefnogaeth i'r cais.
Mae'r syniad o adnewyddu'r Hen Felin yn ardderchog ac yn rhywbeth mae'r gymuned yn ei chefnogi 100%. Yn wir bu pwyllgor lleol yn ceisio gwneud yr union beth flynyddoedd yn ol ond heb lwyddo. Mewn oes ble mae Aberdaron bellach yn ddibynol iawn ar dwristiaeth i gynnal yr economi a'r twristiaid rheini bob amser yn chwilio am bethau newydd a chyffroes i'w diddanu byddai cael yr Hen Felin yn ol i weithio a'r holl fyddai yn gysylltiedig a hynny yn annhygoel. Mae Aberdaron ac y wir yr holl ardal ehangach o'i chwmpas yn edrych ymlaen yn eiddgar i weld y cynllun unigryw yma yn llwyddo ac erfynaf arnoch i gymeradwyo y cais am gefnogaeth
Yn gywir
W. Gareth Roberts ( Cyng)
Translation:
Hi Elin
Regarding Geraint and Gillian Jones' grant application towards the renovation of Aberdaron Old Mill.
I would like to offer a word of support for the application.
The idea of renovating the Old Mill is fantastic and something the community supports 100%. Indeed a local committee tried to do exactly the same years ago but failed. In an age where Aberdaron is now very reliant on tourism to support the economy and those tourists are always looking for new and exciting things to entertain, getting the Old Mill back to work and all that that is incredible. Aberdaron and indeed the wider surrounding area are looking forward to seeing this unique scheme succeed and I urge you to approve the
application for support
Yn gywir
W. Gareth Roberts ( Cyng)
From: Nerys Kimberley
Subject: Llythyr i gefnogi Yr Hen Felin Daron.
Annwyl Elin,
Parthed Cais Melin Daron tuag at adnewyddu yr Hen Felin yn Aberdaron.
Yr wyf yn ysgrifennu o blaid Clwb Cyswllt Twristiaeth Aberdaron i gefnogi y cais i adnewyddu Hen Felin Daron. Yn wir mi fuasai yn unigryw cael yr adeilad yma yn ôl ar ei thread ar ôl amser maith gyda chefnogaeth y bobol lleol. Nid yn unig y buasa yn dennu mwy o dwristiaeth mae Aberdaron yn dibynnu arno ond mi fuasai hefyd yn gwella y pentref i weld hen adeilad sy’n dadfeilio yn cael ei adfywyio. Mi fuasai cael yr Hen Felin Daron yn ôl i weithio yn anhygoel hefo cyfle i gyflogi pobol lleol i weithio yna.
Os gwelwch yn dda a wnewch chi edrych i fewn i’r cais yma yn ofalus a chefnogi y cais i lwyddo.
Yn gywir,
Nerys Kimberley
Ysgrifenyddes Clwb Cyswllt Twristiaeth Aberdaron
Translation
Subject: Letter in support of Old Mill Aberdaron.
Dear Elin,
Regarding the Daron Mill Application for the renovation of the Old Mill at Aberdaron.
I am writing in support of the Aberdaron Tourism Liaison Club in support of the application to renovate Old Mill. Indeed it would be unique to get this building back on its thread after a long time with the support of the local people. Not only would it attract more tourism, Aberdaron relies on it but it would also improve the village to see a disused old building being restored. Getting the Old Daron Mill back to work would be amazing with the opportunity to employ local people to work there.
Please look into this application carefully and support the bid to succeed.
Sincerely,
Nerys Kimberley
Secretary of Aberdaron Tourism Liaison Club
From: Ian Roberts Proprietor
How can we help you get more involved with our community?:
Gwesty Ty Newydd
Aberdaron
Pwllheli
Dear Sirs, 13/09/2020
RE: Melin Daron
It is with great excitement that we write to support the Melin Daron venture.
Over the years it has become quite an eyesore as you come into the village but we are confident that we will see the mill renovated to its previous glory.
We wish you all the success with the venture.
Yours sincerely
Iain Roberts
Annwyl Ha wŷr, 13/09/2020
RE: Melin Daron
Gyda chyffro mawr yr ydym yn ysgrifennu i gefnogi menter Melin Daron.
Dros y blynyddoedd mae wedi dod yn dipyn o ddolur llygad wrth ichi ddod i mewn i'r pentref ond rydym yn hyderus y gwelwn y felin yn cael ei hadnewyddu i'w gogoniant blaenorol.
Rydym yn dymuno pob llwyddiant i chi gyda'r fenter.
Yr eiddoch yn gywir Iain Roberts
On behalf of Gwesty Ty Newydd Cyf enquiries@gwesty-tynewydd.co.uk
Ar ran, Grwp Archeoleg ac Hanes Lleol Bryncroes.
Ar ran y grwp yr wyf eisiau datgan ein cefnogaeth i’r bwriad o adnewyddu’r hen felin yn Aberdaron. Mae’r felin yn safle hanesyddol bwysig yn yr ardal, mae yna gofnodion yn dyddio yn ȏl 1252, oes Tywysogion Gwynedd, yn dangos fod yna felin yn Aberdaron yn y cyfnod yma, ac mae’n debygol fod melin ar y safle cyn hyn.
Yn y cyfnod yma ‘roedd y felin yn Aberdaron yn perthyn i Abaty Enlli a byddai’r mynachod yn dod drosodd o’r ynys i falu eu blawd yma. Wrth edrych ar yr hen lawysgrifau mae modd gweld fod yna lawer o ŷd yn cael ei dyfu yn Llŷn yn y cyfnod ac felly ‘roedd y felin yn safle prysur a phwysig i’r gymuned.
Mae rhanau o’r adeilad presennol yn dyddio yn ȏl i’r unfed ganrif ar bymtheg . Er fod cyflwr yr adeilad wedi dirywio mae yr holl offer malu yn dal yn eu lle yn y felin, ac felly mae modd ei adgyweirio i’w chyflwr gwreiddiol fel ag oedd pan yn gweithio gan mlynedd yn ȏl.
Yr wyf wedi bod yn gwneud ymchwil i hanes hen felinau Llŷn, ac yn hen ardal Cymydfaen yn unig wedi darganfod dros ugain o felinau oedd yn gweithio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. O’r rhain i gyd Melin Aberdaron sydd yn y cyflwr gorau, er bod llawer o waith arni, ac felly ‘rydym fel grwp yn teimlo y buasai adfer yr hen felin yn creu adnodd hanesyddol ac yn ganolbwynt i astudio ein hanes a’n treftadaeth yma yn Llŷn. Hefyd buasai modd dangos y gwahanol brosesau ar y safle, tyfu ŷd, ei gynaeafu, sychu, ei falu a’i grasu yn fara. Buasai hyn o ddiddordeb mawr i ymwelwyr a’r ardal, disgyblion ysgol a llawer o gymdeithasau lleol ac yn ffordd iddynt ddysgu syt mae ein bara beunyddiol yn cael eu cynhyrchu.
Felly yr ydym fel grwp yn falch o gael datgan ein cefnogaeth i’r fenter ddiddorol yma.
Gan ddymuno pob llwyddiant i’r prosiect.
Glyn Roberts.
Ysgrifennydd Grwp Archeoleg ac Hanes Lleol Bryncroes.
Translation
On behalf of, Bryncroes Archeology and Local History Group.
On behalf of the group I want to express our support for the proposed restoration of the old mill at Aberdaron. The mill is an important historical site in the area, records dating back to 1252, the age of the Princes of Gwynedd, indicate that there was a mill at Aberdaron at this time, and it is likely that there was a mill on the site before this.
At this time the mill at Aberdaron belonged to Bardsey Abbey and the monks would come over from the island to grind their flour here. Looking at the old manuscripts it can be seen that a lot of corn was grown in Llŷn at the time and so the mill was a busy and important site for the community.
Parts of the present building date back to the sixteenth century. Although the condition of the building has deteriorated all the milling equipment is still in place at the mill, so it can be restored to its original condition as it was when it was working a hundred years ago.
I have been researching the history of the old mills of Llŷn, and in the old area of Cymydfaen alone discovered over twenty mills that operated in the nineteenth century. Of these, Aberdaron Mill is in the best condition, albeit with a lot of work, and as such we feel that restoring the old mill would create a historic resource and a focus for the study of our history and heritage here in Llŷn. It would also be possible to demonstrate the various processes on the site, growing corn, harvesting, drying, crushing and baking bread. This would be of great interest to visitors to the area, school pupils and many local societies and a way for them to learn how our daily bread is produced.
So we are pleased to express our support for this interesting initiative.
Wishing the project every success.
Glyn Roberts.
Secretary of Bryncroes Archeology and Local History Group.
Melin Daron- Support To whom it may concern,
I am writing to you in support of the proposed renovation of Melin Daron.
As a newcomer to the village, opening our doors early this year we have been made to feel very welcome from the start.
We have received such positive feedback from our new customers and feel very privileged to service the village and surrounding area.
Aberdaron is a thriving and forward-thinking village with a strong sense of community and a wealth of history.
This project is an exciting opportunity for Aberdaron residents and visitors alike.
A perfect opportunity to educate our children in a fun and interactive way.
As we are largely reliant on the summer trade to carry us through, this venture will offer another fantastic attraction subsequently increasing revenue for the many workers within the community
In my opinion this project is vital to the community. Too many of our old traditions are lost in modern day life, it would be wonderful to revive the Mill and see it in action.
I fully support this project and believe it will benefit the area greatly for many years to come.
In the current climate this is needed now more than ever.
Elfed Roberts
Managing Director
Siop Y Madryn Cyf Group Spar, Aberdaron
Adran Ardal o Harddwch Cyngor Gwynedd
Annwyl Swyddog,
Newyddion da, bod na ddatblygiad ym mhrosiect y Felin, Aberdaron! Mae corff o’r newydd wedi dechrau yno ac yn gweithio’n ddiwyd i gael cychwyn o ddifri ar y prosiect o adnewyddu’r Felin i fod yn Felin Flawd unwaith eto.
Gwych fyddai gweld y Felin yn gweithio unwaith eto, gan ddennu pobl i’r pentref allan o dymor gwyliau’r ysgol yn ogystal a bod yn aduniad tywydd gwlyb yr haf hefyd!
Rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr i gyd-weithio gyda’r Felin i gael prynu’r blawd i wneud torth arbennig allan o’r ceich wedi ei dyfu’n lleol.
Yn gywir
Geraint a Gillian Jones
Translation
To: Area of Outstanding Natural Beauty Gwynedd Council
Dear Officer
Good news, that the Mill project in Aberdaron has developed!
A new organisation is working diligently to get the project back from the Mill to a Flour Mill in earnest.
It would be great to see the Mill in operation again, bringing people out of the village out of the school holiday season as well as being a wet summer reunion too!
We are really looking forward to working with the Mill to buy the flour to make a special loaf out of locally grown wheat.
Yours truly
Geraint and Gillian Jones
Subject: Y Felin Aberdaron.
4 07 2020
As permanent and long standing residents of Aberdaron we would support the proposal to renovate and reinstate Y Felin in Aberdaron as a working mill.
This Grade 2 listed building would be of great value to both residents and visitors.
The local children and young people of the village would benefit from this resource.
Aberdaron is a centre from which people can explore this unique area noted for its history and cultural importance within North Wales.
Many people come from all over the UK and the world to discover its important sites.
Y Felin would contribute to this experience.
Peter Shaw / Jean Shaw.
Translation:
Testun: Y Felin Aberdaron.
Fel preswylwyr parhaol a hirsefydlog Aberdaron byddem yn cefnogi'r cynnig i adnewyddu ac adfer Y Felin yn Aberdaron fel melin weithio.
Byddai'r adeilad rhestredig Gradd 2 hwn o werth mawr i drigolion ac ymwelwyr.
Byddai plant a phobl ifanc lleol y pentref yn elwa o'r adnodd hwn.
Mae Aberdaron yn ganolfan lle gall pobl archwilio'r ardal unigryw hon sy'n enwog am ei hanes a'i phwysigrwydd diwylliannol yng Ngogledd Cymru.
Daw llawer o bobl o bob rhan o'r DU a'r byd i ddarganfod ei safleoedd pwysig.
Byddai Y Felin yn cyfrannu at y profiad hwn.
Peter Shaw / Jean Shaw.
Copyright © 2023 Melin Daron - All Rights Reserved.
Powered by GoDaddy